Llun o fideo Neil McEvoy
Mae Aelod Cynulliad wedi rhoi gwybod i’r heddlu am weithredoedd Llywodraeth Cymru’n gwerthu tair siop ym Mhontypridd ar golled o bron £1 miliwn.
Mae Neil McEvoy, AC Plaid Cymru tros Ganol De Cymru, hefyd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd yr Economi a’r corff craffu, y Swyddfa Archwilio.
Mae’n awgrymu bod mwy na blerwch wrth wraidd y gwerthiant, ar ôl i gynllun i adfywio rhan o’r dre’ gael ei roi o’r neilltu.
Fe ffilmiodd Neil McEvoy fideo i’w roi ar y We yn tynnu sylw at y siopau yn Stryd Taf, Pontypridd, gan glymu hynny gydag achosion eraill o Lywodraeth Cymru’n gwneud colled ar gytundebau masnachol.
“Dw i’n dechrau meddwl bod hyn yn fwy na chyd-ddigwyddiad,” meddai. “Dyma’r un gweinidog Llafur a’r un llywodraeth Lafur.”
Y cefndir
Roedd y siopau wedi eu prynu yn 2008 a’u gwerthu yn 2014 – yn ôl y Llywodraeth roedd y cyfan wedi ei wneud gyda chyngor proffesiynol.
Yn y fideo, mae Neil McEvoy’n sefyll y tu allan i un o’r siopau – 54 Stryd Taf – gan ddweud bod honno wedi ei phrynu am £800,000 a’i gwerthu am £150,000.
Roedd y ddwy siop arall ar yr un stryd, gyda’r golled ar y tri phryniant yn £980,000 ac fe gafodd yr AC yr wybodaeth trwy gais rhyddi gwybodaeth.
‘Cyngor proffesiynol’
Yn ôl y Llywodraeth, roedd y cyfan wedi ei wneud gyda chyngor proffesiynol priodol.
Y ddadl yw bod y cynlluniau adfywio wedi methu herwydd y wasgfa economaidd a bod gwerth y siopau wedi gostwng oherwydd cwymp yn y farchnad.