Wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi heddiw y bydd adolygiad o’r gwasanaeth awyren rhwng gogledd a de Cymru, fe ddaeth hi i’r amlwg fod yna 25% o osgtyngiad wedi bod yn nifer y teithwyr sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth eleni.

Wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan AC Gorllewin Clwyd Darren Millar, rhyddhawyd ffigyrau gan Lywodraeth Cymru sy’n dangos bod 5,925 o deithwyr wedi defnyddio’r gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn eleni, o’i gymharu â 7,941 yn ystod yr un cyfnod yn 2015.

Daw’r ffigyrau yn dilyn ffigyrau a gyhoeddwyd gan y Ceidwadwyr yn gynharach y mis hwn oedd yn datgelu bod y cymhorthdal mae’r gwasanaeth yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru wedi codi 27% y llynedd i £109.53 y person, o’i gymharu a £86.07 y person yn 2014/15.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y cynnydd mewn cost wedi digwydd ar y ôl i’r cwmni oedd yn rhedeg gwasanaeth roi’r gorau iddi heb unrhyw rybudd ar ddechrau’r flwyddyn.

Yn ôl y Ceidwadwyr, byddai’n well gwario’r arian ar wella’r rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd ac mae angen adolygiad brys o’r gwasanaeth i weld pa mor hyfyw yw ei ddyfodol.

A dyna’n union y cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet tros Economi ac Is-Adeiledd, yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw.