Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am oes am ladd ei gymydog yn y brifddinas.

Cafwyd Stephen John Pike, 58 oed, yn euog o lofruddio Clint Simms, 39 oed, yn Nhrelái, Caerdydd ym mis Mawrth eleni yn dilyn ffrae.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd sut y bu i Stephen Pike drywanu Clint Simms.

Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 20 mlynedd o dan glo.