Mae ymgyrch sy’n pwyso am ailagor rheilffyrdd yng Nghymru yn chwilio am aelodau yng ngogledd Cymru.

Mae ymgyrch Traws Link Cymru yn chwilio am aelodau newydd i bwyso am ailagor y lein rhwng Bangor ac Afon Wen ger Chwilog, a fyddai yna’n cysylltu gyda Lein Arfordir y Cambrian sy’n teithio rhwng Pwllheli ac Aberystwyth.

A maen nhw wedi mynd ymhellach, trwy ddweud y byddai ailagor y rheilffordd yn fuddsoddiad rhatach ac yn ddewis mwy cynaliadwy nag adeiladu ffordd osgoi newydd sbon i bentre’r Bontnewydd y tu allan i Gaernarfon.

Sefydlwyd Traws Link Cymru ym mis Hydref 2013 yn Llanbedr Pont Steffan ac maen nhw’n ymgyrchu dros adfer rheilffyrdd Aberystwyth-Caerfyrddin a Bangor-Afon Wen a gaewyd i deithwyr yn y 1960au.

Mae’r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth ac mae wedi denu 16,000 o lofnodion, yn ogystal â chefnogaeth 32 o Aelodau Cynulliad.

Dim trên i Afon Wen

Caewyd y lein o Afon Wen (a anfarwolwyd yng nghân Bryn Fôn, ‘Ar y Trên i Afon Wen’ i Fangor yn 1964.

Roedd y trên yn mynd o’r orsaf sydd wedi ei hanfarwoli mewn cân gan Sobin ar Smaeliaid yn stopio yng ngorsafoedd Chwilog, Llangybi, Ynys, Bryncir, Penygroes, Groeslon, Llanwnda, Dinas, Caernarfon, Dinorwig, Treborth, a Phorthaethwy.

Dywedodd llefarydd ar ran Traws Link Cymru: “Rydym yn gweld ailagor y lein oedd yn rhedeg o Fangor i Borthmadog tan y 1960au fel rhan o’r weledigaeth fawreddog o ailgysylltu gogledd a de Cymru ar y cledrau.

“Rydym wedi cynnal ymgyrch lwyddiannus iawn hyd yn hyn o Lanbedr Pont Steffan, Ceredigion ac wedi sicrhau astudiaeth gwmpasu gan Lywodraeth Cymru a ddaeth i’r casgliad bod ychydig iawn yn rhwystro ailagor y rheilffordd Aberystwyth-Caerfyrddin gyda 97% o’r gwely trac yn glir gyda chost amcangyfrifedig o £ 505-750m.

“Mae hyn yn cymharu’n ffafriol iawn â chostau uwch o lawer o adeiladu ffyrdd newydd. Rydym bellach ar ein ffordd i sicrhau astudiaeth ddichonoldeb lawn.”