ACau ar set Pobol y Cwm
Mae storm wedi codi ar y cyfryngau cymdeithasol dros hunlun criw o Aelodau Cynulliad ar set Pobol y Cwm.
Cafodd ei dynnu gan Aelod Cynulliad Llafur, Jeremy Miles, ac mae’n dangos aelodau Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad yn closio at ei gilydd am lun.
Mae’r llun wedi cael ei rannu degau o weithiau ar Twitter a Facebook gyda nifer yn anhapus bod Aelodau Cynulliad i’w gweld yn rhy gyfeillgar ag un o aelodau’r pwyllgor, Neil Hamilton o UKIP.
Yn y llun hefyd mae Bethan Jenkins a Dai Lloyd, ACau Plaid Cymru a chadeirydd y pwyllgor, Suzy Davies, AC Ceidwadol, a’r Aelodau Cynulliad Llafur, Lee Waters a Hannah Blythyn.
Llun “ffiaidd”
Mae’r ymgyrchydd iaith, Simon Brooks, wedi galw am eglurhad gan Blaid Cymru a Llafur, gan alw’r llun yn “ffiaidd”.
“Drychwch ar hyn o Aelodau Cynulliad Plaid a Llafur yn chwerthin gydag UKIP fel pe baent nhw’n ffrindiau. Ffiaidd,” meddai.
Ar Facebook, fe ychwanegodd fod “aelodau Plaid Cymru (ac aelodau Llafur a’r Gwyrddion ac Annibynwyr a phawb) ym Mhorthmadog (ac mewn degau o gymunedau tebyg) yn cwffio ddydd a nos i gadw Ukip allan o’n cymunedau.”
“Mae’n torri fy nghalon i weld Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn enwedig yn ymddwyn fel hyn. Mi fydd gan fy ffrindiau yn y Blaid Lafur deimladau tebyg am yr Aelodau Cynulliad Llafur wrth gwrs.”
Amddiffyn y llun
Mae Bethan Jenkins wedi amddiffyn y llun, gan ddweud bod Neil Hamilton wedi “neidio i mewn i’r llun” ac y byddai’n well ganddi “[d]rafod materion pwysig y dydd na hwn.”
“Wastad mor mor hawdd i feirniadu. Nid fi ‘nath ethol UKIP. Nes i ymgyrchu yn gryf yn erbyn nhw ac yn parhau i wneud. Sdim byd cosy yn digwydd rhwng fi a UKIP o gwbl. Felly dwi just ddim yn derbyn y [f]eirniadaeth,” meddai mewn ymateb i neges Facebook Simon Brooks.
Ymateb ar Twitter
Nid Simon Brooks yw’r unig un sy’n anhapus chwaith, gyda sawl un arall yn uchel eu beirniadaeth yn erbyn y “cyfeillgarwch” honedig sydd rhwng UKIP a phleidiau eraill.
Dwi’n siomedig â phawb yn y llun yma, gan gynnwys aelodau fy mhlaid fy hun. Dyma sut mae normaleiddio y dde-eithafol https://t.co/JMqf9w9BZh
— Dyfrig Jones (@dyfrig) September 29, 2016
Despite the smiling faces, this is actually a desperately sad picture // Dwi mor drist yn gweld y llun yma, dwi eisiau crio. pic.twitter.com/19G2hATCK9
— Huw L Williams (@HuwL1oyd) September 28, 2016
Mae golwg360 wedi gofyn am sylw gan Blaid Cymru a Llafur Cymru.