Lee Simmons a Zoe Morgan
Mae cydweithwyr dau aelod o staff siop ddillad Matalan a gafodd eu lladd yng nghanol Caerdydd fore Mercher, wedi cynnal cyfarfod staff emosiynol heddiw, ac mae’r cwmni wedi penderfynu peidio ag ailagor y siop am ddiwrnod arall.

Honnir bod Zoe Morgan, 21 oed, a’i chariad Lee Simmons, 33, wedi cael eu trywanu i farwolaeth gyda chyllell yn agos at eu gweithle ar Heol y Frenhines yn y brifddinas.

Mae dyn 20 mlwydd oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn parhau i gael ei holi gan dditectifs, ac mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Y cefndir 

Cafodd cyrff Zoe Morgan o Ystum Taf a Lee Simmons o Grangetown eu darganfod am 5.50yb, ddydd Mercher.

Tua awr yn ddiweddarach cafodd dyn ei arestio ditectifs arestio dyn mewn cyfeiriad ym mhentref Gas-bach ger Casnewydd. Meddai’r heddlu bod y dyn yn “hysbys” i’r ddau gafodd eu lladd.

Ers hynny, mae cannoedd o bunnoedd wedi cael eu rhoi i dudalen JustGiving er cof am Zoe Morgan. Mae’r dudalen yn ei disgrifio ei fel “hwyliog, annwyl ac yn eithriadol o garedig a gonest”.

Ym mis Mehefin graddiodd o Brifysgol De Cymru gyda gradd anrhydedd mewn marchnata ffasiwn a dylunio manwerthu.

Credir bod Zoe Morgan a Lee Simmons bod mewn perthynas am bedwar mis yn dilyn dechrau gweithio gyda’i gilydd.