Mae gobaith y bydd y gwasanaeth bws dyddiol rhwng Aberystwyth a Chaerdydd yn ail ddechrau erbyn diwedd mis Hydref.

Mae Ysgrifennydd Cymru dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, wedi dweud bod trefniadau ar waith i ddod â’r gwasanaeth yn ôl, bron i ddeufis ar ôl iddo ddod i ben.

Gan ysgrifennu at Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, dywedodd yr Ysgrifennydd fod “gwaith ar y cyd yn digwydd gyda Chyngor Ceredigion a Chyngor Sir Gâr”, gyda’r gobaith y bydd y gwasanaeth yn ail ddechrau erbyn mis Hydref.

Cwmni’n mynd i’r wal

Dechrau mis Awst, fe gyhoeddodd cwmni Lewis Coaches o Lanrhystud, oedd yn cynnal y gwasanaeth, ei fod yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, gan beryglu 40 o swyddi yn yr ardal.

Fe aeth Cyngor Ceredigion ati i lenwi gwasanaethau lleol y cwmni ond doedd dim sôn am gwmni arall yn dod i redeg y gwasanaeth 701 rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, sy’n boblogaidd ymhlith myfyrwyr.

Mewn neges Facebook, croesawodd Elin Jones y newyddion, gan ddweud y bydd yn “parhau i bwyso ar hyn”, gan ei fod yn wasanaeth “pwysig i gymaint o bobol”.