Dyw hi ddim yn glir eto a fydd cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal y flwyddyn nesa’.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi methu cadarnhau wrth golwg360 heddiw a fydd y seremoni flynyddol, sy’n gwobrwyo llyfrau ffeithiol, nofelau a chyfrolau barddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg, yn digwydd yn 2017.

Ond mae llefarydd ar ran Llenyddiaeth Cymru wedi addo y bydd yna “gyhoeddiad erbyn adeg y Nadolig eleni” ynghylch y wobr – “fel sy’n arferol”.

Yr hyn sy’n arferol bob blwyddyn ydi bod gwybodaeth am y gystadleuaeth, a’i beirniaid ar wefan Llenyddiaeth Cymru, ond ar hyn o bryd, mae gwefan Llenyddiaeth Cymru’n nodi y bydd manylion y wobr yn 2017 yn cael eu cyhoeddi’n “fuan.”

Maen nhw hefyd, fel arfer, yn cyhoeddi pwy ydi’r tri beirniad Cymraeg a’r tri beirniad Saesneg sydd wrthi’n darllen pob llyfr a gyhoeddwyd ers dechrau’r flwyddyn. Pe bai cystadleuaeth yn 2017, y llyfrau a gyhoeddwyd rhwng Ionawr a Rhagfyr 2016 fyddai dan ystyriaeth.

Adolygiad o’r byd cyhoeddi

Mae’n gyfnod ansicr i’r byd llenyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda disgwyl i adroddiad cyntaf adolygiad annibynnol ar yr arian y mae Llywodraeth Cymru’n ei rhoi i lenyddiaeth a’r diwydiant cyhoeddi gael ei gyhoeddi’r mis hwn.

Cafodd panel o arbenigwyr ei sefydlu ym mis Mawrth wedi i Lywodraeth Cymru wneud tro pedol ddechrau’r flwyddyn gan beidio â chyflwyno toriadau o 10.6% i gyllideb y Cyngor Llyfrau.

Ar y panel y mae:

– Y Cadeirydd, yr Athro Medwin Hughes, is-ganghellor Prifysgol Cymru

– Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Aberystwyth

– John Williams, nofelydd, colofnydd a threfnydd Gŵyl Talacharn

– Pippa Davies, nofelydd, ymgynghorydd a golygydd gwefannau

– Martin Rolph, ymgynghorydd