Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Mae Coymisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn yr achos yn erbyn ei gyn-fos yn yr heddlu, gan sôn am y modd yr oedd yn gyrru Gordon Anglesea i gartre’ plant lle mae wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw.

Ar y pryd, yn yr 1980au, roedd Arfon Jones yn gwnstabl yn yr heddlu, a Gordon Anglesea yn Arolygydd arno.

Dywedodd Arfon Jones wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug heddiw ei fod wedi gyrru Gordon Anglesea i gartref Bryn Estyn yn Wrecsam “tua hanner dwsin o weithiau” yn yr 1980au.

Dywedodd mai yng nghar yr heddlu yr oedden nhw’n mynd, a bod Gordon Anglesea yn gwisgo’i iwnifform ar gyfer yr ymweliadau. Dywedodd y byddai’n ei ollwng yn y cartref, ond nad oedd yn ei gasglu ar ddiwedd yr ymweliadau.

Ychwanegodd ei fod o’r farn fod Gordon Anglesea yn mynd yno i rybuddio’r plant yn ffurfiol, ac fe ychwanegodd nad oedd yn gwybod a oedd yr Arolygydd wedi cael caniatâd y Prif Arolygydd i fynd yno.

Mae Gordon Anglesea, 79, yn gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un ymosodiad rhyw difrifol ar un bachgen, ac un cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen arall.

Mae’r achos yn parhau.