Zoe Morgan, 21 o Landaf, a Lee Simmonds, 33 o Grangetown, yw’r ddau a gafodd eu lladd yng nghanol y brifddinas fore heddiw.

Roedd y ddau’n gweithio yn siop ddillad Matalan ar Heol y Frenhines, ac newydd orffen shifft nos pan gawson nhw eu trywanu i farwolaeth o flaen y siop oddeutu 5.50yb.

Mae dyn 20 oed o Gas-bach ger Casnewydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’r ddau.

Mae llefarydd ar ran Heddlu De Cymru wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.