Mae darn o hanes Rheilffordd Llanfyllin wedi cael ei werthu am £4,100 mewn ocsiwn yn Amwythig.

Cafodd cofeb ar ffurf whilber a rhaw ar ddarn o dderw ei chyflwyno i Mrs Dugdale o Lwyn ger Llanfyllin gan y contractiwr Thomas Savin ar achlysur torri tywarchen gynta’ Rheilffordd Llanfyllin ar Fedi 20, 1861.

Cafodd y gofeb ei chreu gan Stephen Smith a William Nicholson o Lundain, ac roedd yr eitem yn yr ocsiwn yn dod gyda llinellau o gerddoriaeth a gafodd ei chyfansoddi gan I. Glan Abel ar gyfer seremoni torri’r dywarchen.

Cafodd ei brynu ddydd Mercher gan gasglwr o’r canolbarth.

Hanes y rheilffordd

Agorodd Rheilffordd Llanfyllin o Lanymynech drwy Lansantffraid, Llanfechain a Bryngwyn yn 1863 ar gyfer y diwydiant carreg galch, ac er mwyn rhoi mynediad i’r brif rheilffordd rhwng Croesoswallt a’r Drenewydd.

Ond daeth cyfnod y rheilffordd i Lanfyllin i ben yn 1965 fel rhan o gynllun Beeching.

Thomas Savin oedd yn bennaf gyfrifol am adeiladu rhannau helaeth o’r rheilffordd yng nghanolbarth Cymru – prosiect a’i gwnaeth yn fethdalwr yn y pen draw.

Ynghyd â David Davies, roedd yn gyfrifol am adeiladu Rheilffordd Dyffryn Clwyd, ac fe aeth ymlaen i adeiladu rhannau helaeth o Rheilffyrdd Cambria.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni ocsiwn Halls eu bod nhw wrth eu bodd gyda’r pris gwerthu terfynol.