Alun Davies
Alun Davies sydd wedi’i ddewis i gynrychioli Cymru ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur.

Daeth cadarnhad o’r newyddion gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a ddywedodd y byddai’n “llais cryf” i Gymru ar y pwyllgor.

Bu Alun Davies yn Weinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ac yn Ddirprwy Weinidog Amaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.

Ond fe gafodd ei ddiswyddo gan Carwyn Jones o’i rôl fel Gweinidog Amaeth yn 2014 ar ôl ceisio cael gafael ar wybodaeth gudd am ei wrthwynebwyr.

Roedd eisoes wedi’i ganfod ei hun mewn dŵr poeth ar ôl achos o wrthdaro buddiannau tros drac rasio yn ei etholaeth.

Dychwelodd Aelod Cynulliad Blaenau Gwent i Lywodraeth Cymru ym mis Mai fel Gweinidog Dysgu Gydol Oes a’r Iaith Gymraeg.

Wrth ei fodd

Yn dilyn ei benodiad, meddai Alun Davies: “Rwy’ i wrth fy modd o fod wedi cael y cyfle i ymgymryd â’r rôl bwysig hon.

“Byddaf yn defnyddio fy lle ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Llafur i fod yn llais cryf dros fuddiannau Cymru a gweithio gyda chydweithwyr drwy’r mudiad Llafur ehangach yn y Deyrnas Unedig.”

Ychwanegodd Carwyn Jones fod y rôl yn bwysig wrth “gynyddu llais Cymru o fewn y blaid a sicrhau bod ein strwythurau mewnol yn unol â’r datganoli pellach rydym eisoes wedi’i gyflwyno i’n cenedl”.