Mae 3% yn fwy o bobol ifanc wedi cael eu derbyn ar gyrsiau prifysgol yng Nghymru eleni, yn ôl arolwg diweddar.

Fe wnaeth 25,350 o ddarpar fyfyrwyr ennill lle ar gyfer cwrs yn 2016, yn ôl adroddiad gan y corff addysg prifysgol UCAS.

Fe gafodd bron i 522,000 o bobol le mewn prifysgol yng ngwledydd Prydain, sy’n 7,000 yn fwy na’r un cyfnod y llynedd.

Yng Ngogledd Iwerddon y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn niferoedd, gyda 10,410 yn cael eu derbyn sy’n 5% yn fwy na’r llynedd.

Dywedodd Mary Curnock Cook, prif weithredwr UCAS: “Mae myfyrwyr gyda chanlyniadau llai disglair yn cael mwy o ddewis o brifysgolion erbyn hyn ac mae tystiolaeth bod y myfyrwyr hynny yn llwyddo yn eu cyrsiau.”