Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi mynegi pryderon am gynlluniau Llywodraeth Cymru i rannol uno rhai o sefydliadau hanes Cymru.

Bwriad y llywodraeth yw sefydlu corff newydd o’r enw ‘Cymru Hanesyddol’, gan dynnu cyrff megis Cadw ac Amgueddfa Cymru ynghyd.

Ond mae llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, Dai Lloyd wedi cyhuddo’r llywodraeth o “fygwth annibyniaeth” y sefydliadau drwy uno’u holl weithgarwch masnachol, ac o fethu â chynnal “trafodaeth agored a thryloyw” gyda’r sector ac aelodau’r Cynulliad cyn bwrw ymlaen gyda’r cynllun.

Yn ystod cyfarfod yn y Senedd, fe ofynnodd am gael cynnal dadl lawn ar y mater.

“Ymgorfforiad o Gymru”

“Am ddegawdau, roedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru’n ymgorffori Cymru fel cenedl, ac mae angen diogelu ei statws fel corff annibynnol ar gyfer y dyfodol,” meddai Dai Lloyd.

“Mae Plaid Cymru’n credu bod rhaid i’r corff newydd aros yn annibynnol o’r llywodraeth er mwyn cyflawni ei rôl.

“Mae gen i bryderon hefyd am y diffyg ymgysylltu a thrafod gyda’r sector ynghylch y penderfyniad polisi hwn. Rydym yn siarad yma am sefydliadau cenedlaethol allweddol a byddwn i wedi disgwyl llawer iawn mwy o sgwrs cyn unrhyw gyhoeddiad polisi.”

Mae Dai Lloyd hefyd yn wfftio awgrym Llafur fod y cynllun yn un o addewidion etholiadol. Ond doedd yr uno ddim yn agos at faniffesto Llafur.

“Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad gynnal dadl am ddyfodol ein sefydliadau cenedlaethol allweddol,” meddai Dai Lloyd, “cyn i unrhyw newidiadau sylweddol gael eu cyflwyno.”