Mae’n rhaid i Blaid Cymru ddychwelyd £25,000 i bobol Libya os yw’r honiadau yn wir eu bod nhw wedi derbyn £25,000 gan y Cyrnol Muammar Gaddafi.

Dyna farn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wrth ymateb i honiadau ymgyrchydd Plaid Cymru, Dr Carl Clowes.

Cafodd yr honiadau eu gwneud gan Dr Carl Clowes yn ei hunangofiant sy’n cael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn. Yn ôl yr awdur, roedd Libya yn awyddus i gydweithio â Phlaid Cymru gan ei bod yn blaid sosialaidd.

Ond mae Plaid Cymru’n dweud nad oes cofnod iddyn nhw dderbyn yr arian, tra bod Andrew RT Davies wedi galw am ymchwiliad i’r mater.

Mewn datganiad, dywedodd mai dyma’r awgrym cryfaf o “gysylltiadau hirdymor tybiedig â chyfundrefn Libya” oedd, meddai, yn darparu arfau i Fyddin Weriniaethol Iwerddon.

“Byddai’r rhodd honedig o £25,000 i’r blaid bellach yn gyfystyr â thros £160,000 mewn arian cyfoes – a does dim cofnod o’r fath rodd yn cael ei ddatgan yn gywir,” meddai.

“Dylai Plaid Cymru fod yn dryloywwrth ymdrin â’r mater,” meddai, gan alw am ymchwiliad annibynnol.

“Yn y pen draw, os yw’r honiadau’n gywir yna rwy’n sicr y bydd y blaid yn awyddus i ddychwelyd yr arian hwn i bobol Libya.”