Mae Cyngor Môn wedi newid ei feddwl tros gynllun casglu clytiau babis, gan ddweud bellach ei fod yn fodlon casglu o dai lle mae yna blant hyd at 4 oed yn byw.

Roedd cyhoeddiad y cyngor ym gymnharach y mis hwn yn dweud y byddai’n fodlon casglu cewynnau o gartrefi plant hyd at 3 oed – ar yr amod fod tystysgrif geni’r plentyn yn cael ei ddangos i’r awdurdod – wedi esgor ar ymateb chwyrn gan bobol y sir.

Fe ddaw hyn i gyd yn sgil penderfyniad y tîm rheoli gwastraff i gasglu sbwriel bob tair wythnos; ond i gasglu sbwriel ychwanegol bob pythefnos i deuluoedd â phlant ifanc. Fe ddaw’r cynllun i rym ym mis Hydref.

Un o’r rhai cynta’ i groesawu tro pedol Cyngor Môn ar oedran y plant y ceglir eu clytiau, oedd Aelod Cynulliad yr ynys, Rhun ap Iorwerth.