Mae dyn 20 oed wedi ei arestio ar ôl i gorff dynes 21 oed a dyn 33 oed gael eu darganfod yng nghanol Caerdydd fore dydd Mercher.

Cafodd y dyn o ardal Cas-bach ger Casnewydd ei arestio mewn tŷ yn y dref tuag awr ar ôl i’r heddlu gael gwybod am y digwyddiad. Mae’n cael ei ddal yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.

Cafodd y ddau gorff eu darganfod am tua 5:50yb yn ardal Heol y Frenhines ac mae lle i gredu eu bod wedi cael eu trywanu, yn ôl llefarydd o’r heddlu.

Mae rhannau o’r stryd yn parhau i fod ynghau wrth i ymchwiliadau fforensig gael eu cynnal.

Ychwanegodd llefarydd nad oes bwriad i chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar hyn o bryd.