Cafodd 78% o’r galwadau mwyaf difrifol i’r Gwasanaeth Ambiwlans eu hateb o fewn y targed amser o wyth munud fis diwethaf, yn ôl y ffigurau diweddaraf.
Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans wedi bwrw’r targed am yr unfed mis ar ddeg yn olynol, a hwn yw eu perfformiad gorau ers i’r targedau gael eu cyflwyno fis Hydref diwethaf.
Y targed a gafodd ei osod gan Lywodraeth Cymru oedd 65%. Roedd perfformiad Awst 2.8% yn well na mis Gorffennaf (75.3%).
Yr ystadegau
Ar gyfartaledd, fe gymerwyd 4 munud 44 eiliad i ymateb i alwad 999, ac fe lwyddodd y Gwasanaeth Ambiwlans i fwrw’r targed ym mhob ardal am y trydydd mis yn olynol.
Cafodd 70% o alwadau oren – galwadau difrifol ond heb fod bywyd rhywun mewn perygl – eu hateb o fewn 20 munud.