Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dyn a dynes yng nghanol Caerdydd, ac wedi arestio dyn mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Cafodd y ddau gorff eu darganfod yn ardal Heol y Frenhines y bore yma, ac fe gafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw tua 5.50yb .

Mae rhannau o’r stryd ar gau wrth i’r heddlu barhau a’u hymchwiliadau.

Dywedodd llefarydd o heddlu’r de bod dyn wedi cael ei arestio ac nad oes bwriad i  chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar hyn o bryd.

Gofynnir i unrhyw un a gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.