Mae arolwg yn dweud bod lefelau hapusrwydd pobol Cymru wedi cwympo dros y pum mlynedd diwetha’.

Yn y de oedd yr ardaloedd lle gwelwyd y cwymp mwyaf ers 2011-12. Roedd tua 3% o drigolion Merthyr Tudful, gogledd Caerdydd, Torfaen a Sir Fynwy yn adrodd nad oedden nhw mor hapus.

Ar y cyfan, roedd y ffigyrau’n dangos bod pobol dros 16 oed sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn fwy bodlon na’r rhai oedd yn byw mewn dinasoedd prysur.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol fu’n cynnal yr arolwg, ac fe ddywedodd bod ffigyrau Cymru yn mynd yn groes i gynnydd yn lefelau hapusrwydd cyffredinol yng ngwledydd Prydain.

“Fe fydd y data yn gymorth i unigolion, cymunedau ac awdurdodau lleol lunio darlun o’r teimladau lleol a gweithredu,” meddai’r ystadegydd Dawn Snape.