Mae heddlu oedd yn chwilio am ganŵiwr ar goll ar yr afon Glaslyn ger Beddgelert wedi dod o hyd i gorff.

Fe gychwynnodd dimau achub, oedd yn cynnwys y gwasanaeth tan a chriwiau achub mynydd lleol, chwilio am y dyn wedi adroddiadau fod rhywun wedi mynd i drafferthion am tua 2.40yp ddydd Mawrth.

Mewn datganiad yn hwyr nos Fawrth fe ddywedodd Heddlu Gogledd Cymru: “Mae swyddogion wedi canfod yr ardal ble maen nhw’n credu y mae’r canŵiwr sydd ar goll.”

Ychwanegodd llefarydd bod y gwaith o adfer y corff wedi digwydd ac mae swyddogion heddlu yn cynnig cefnogaeth i deulu’r dyn.