Carwyn Jones Llun: PA
Mae aelodau o gynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl heddiw wedi pleidleisio o blaid newidiadau i roi mwy o bwerau a hunanlywodraeth i’r blaid yng Nghymru a’r Alban.

Golyga hyn y gall Carwyn Jones fel arweinydd Llafur yng Nghymru a Kezia Dugdale, arweinydd Llafur yr Alban, eistedd ar fwrdd rheoli’r blaid, sef yr NEC.

Mae’r newidiadau hefyd yn rhoi mwy o reolaeth i Lafur Cymru a’r Alban i ddewis ymgeiswyr i gynrychioli sedd yn San Steffan, materion disgyblu ac ethol eu harweinwyr.

‘Cam mawr ymlaen’

Wrth groesawu’r newidiadau, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

“Mae’r pecyn o newidiadau a gymeradwywyd heddiw yn gam mawr ymlaen – nid yn unig ar gyfer Llafur Cymru – ond i holl fudiad Llafur ar draws y Deyrnas Unedig.

“Mae Llafur Cymru yn falch i fod yn rhan o deulu ehangach Llafur y Deyrnas Unedig, ond mae’n rhaid i’r berthynas honno barchu ei gilydd.”

Er hyn, roedd y newidiadau wedi bod yn bwnc llosg o fewn y blaid, gyda rhai’n dadlau y dylai aelodau’r NEC gael eu hethol yn lle eu penodi.

Dydd Llun, fe wnaeth Jeremy Corbyn geisio atal y newidiadau, ac ychydig cyn y bleidlais ddydd Mawrth, fe wnaeth rhai o gefnogwyr Corbyn geisio oedi’r bleidlais, gan fethu.

Roedd rhai’n ofni y gallai’r newidiadau i drefn y bwrdd rheoli wanhau dylanwad yr arweinydd Jeremy Corbyn ar bwyllgor yr NEC.