Llys Ynadon Westminster
Mae dyn ifanc o Lanelli wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o hacio cyfrifon cwmni ffonau TalkTalk cyn mynnu tâl o filoedd o bunnau i beidio datgelu’r wybodaeth.

Honnir bod Daniel Kelley, 19, o Heol Dinbych, Llanelli wedi dwyn manylion cwsmeriaid y cwmni fis Hydref y llynedd.

Clywodd Llys Ynadon Westminster ei fod wedi mynnu tal mewn Bitcoins, sef math o arian digidol, gwerth tua £276,000 o’r cwmni.

Mae’n cael ei gyhuddo hefyd o ymosodiadau tebyg ar gwmni Zippo a chwmni addysg yn Queensland, Awstralia yn 2015.

Mae Daniel Kelley yn wynebu  14 cyhuddiad – gan gynnwys wyth achos o flacmel, pedwar trosedd yn ymwneud a hacio ffonau a dau achos o dwyll.

Clywodd y llys ei fod wedi’i arestio ym mis Tachwedd y llynedd a’i gyhuddo gan dditectifs Scotland Yard ddydd Llun.

Nid oedd Daniel Kelley wedi cyflwyno ple heddiw a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth i ymddangos yn llys yr Old Bailey ar 10 Hydref.