Myfyrwyr yn graddio (Llun: Clawed CCA 3.0)
Mae adroddiad i’r system gyllido addysg uwch yng Nghymru yn argymell y dylai myfyrwyr gael grantiau tuag at gostau byw, yn hytrach na’r grantiau ffioedd dysgu sydd mewn grym ar hyn o bryd.

Dyna ydy argymhelliad yr Athro Ian Diamond a phanel o arbenigwyr wrth iddynt gyhoeddi eu hadroddiad hirddisgwyliedig.

Mae’n argymell y dylai pob myfyriwr dderbyn £1,000 o grant sylfaenol tuag at gostau byw’r flwyddyn, sydd ddim yn seiliedig ar brawf modd, gyda myfyrwyr o deuluoedd tlotach i gael cymorth ychwanegol yn ôl yr angen.

Esbonia fod hynny’n golygu y bydd myfyrwyr yn cael swm sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn ystod y tymor pan fyddant yn astudio.

Fe allai myfyrwyr yng Nghymru gael grant o £7,000 y flwyddyn wrth astudio, gyda fersiwn pro-rata ar gael i fyfyrwyr rhan-amser. Yr uchafswm a fyddai ar gael bob blwyddyn fyddai £9,113 y flwyddyn ar gyfer y rheiny sy’n astudio’n llawn-amser.

Nod argymhellion yr Athro Diamond yw sicrhau bod y rheini sydd eisiau mynd i’r brifysgol yn gallu gwneud hynny, a bod y system yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir.

‘Wynebu llai o ddyled’

“Dylai’r trefniadau ar gyfer ariannu addysg uwch fod yn bartneriaeth rhwng y gymdeithas ehangach a’r unigolyn,” meddai’r Athro Diamond wrth gyhoeddi ei adroddiad.

“Yn wahanol i Loegr, lle bydd y cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr yn seiliedig ar fenthyciadau, rydym yn cynnig darparu cymorth cyffredinol sylweddol i fyfyrwyr llawn-amser. Golyga hyn y bydd myfyrwyr Cymru’n wynebu dipyn llai o ddyled ar gyfartaledd na myfyrwyr o Loegr pan fyddant yn gadael y brifysgol.”

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru ar Addysg ei bod yn cefnogi’r adroddiad gan ddweud y byddan nhw’n arsylwi’n fanylach ar yr argymhellion yn awr.

“Bydd y pecyn cymorth hael a gynigir gan y panel yn golygu y bydd myfyrwyr o Gymru yn elwa ar yr unig system yn y DU sy’n gyson, yn flaengar ac yn deg ar bob lefel a dull astudio,” meddai.

Nid oes disgwyl i’r newidiadau ddod i rym yng Nghymru tan o leiaf 2018.

Croesawu

Mae nifer o sefydliadau addysg uwch a phleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi croesawu argymhellion yr Adroddiad Diamond hefyd.

Yn ôl llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar: “Rydym yn cefnogi’r argymhellion i symud i ffwrdd o ffioedd dysgu a chefnogi system o grantiau cynhaliaeth ar sail prawf ar gyfer myfyrwyr.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi credu erioed y dylai cefnogaeth gael ei dargedu at  y rheiny sydd mwyaf ei angen i sicrhau bod pawb yn gallu cael addysg prifysgol, beth bynnag yw eu cefndir,” meddai.

Croesawodd Hannah Pudner, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Brifysgol Agored yng Nghymru, yr argymhellion ar gyfer astudiaeth ran amser hefyd gan ddweud;

“Rydym yn falch o weld yn yr argymhelliad y dylid cefnogi sefydliadau i gadw’r ffioedd ar lefel gymedrol ar gyfer cyrsiau rhan-amser er mwyn dwysau astudiaeth ran-amser gyfochr â’r argymhellion am gymorth ar gyfer costau byw i fyfyrwyr rhan-amser.”

‘Pecyn cytbwys’

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) hefyd wedi croesawu’r adroddiad heddiw.

Yn ôl Dr David Blaney, Cyfarwyddwr CCAUC, “mae argymhellion Syr Ian yn cynnig pecyn cytbwys a fyddai’n arwain at ddosbarthu’r adnoddau sydd ar gael yn fwy cytbwys rhwng yr amrywiaeth o flaenoriaethau polisi, ond gan barhau â’r egwyddor y dylai cefnogaeth i fyfyrwyr fod yn symudol.

“Maent hefyd yn ymateb i’r pryder sydd wedi’i godi’n glir a chyson gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru bod talu costau byw’n her fawr i fyfyrwyr o dan y trefniadau presennol.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i argymhellion yr adolygiad yn awr. Mae CCAUC wrth law i roi dadansoddiad arbenigol o’r opsiynau y mae’n rhaid eu hystyried ac i gefnogi’r broses weithredu.”