Lavinia Cohn-Sherbok, sydd ag ail gartref yn Bwlch-llan (Llun: Y Byd ar Bedwar)
Mae pâr o Lundain sydd ag ail gartref yng Ngheredigion wedi cyhuddo Cyngor Sir Ceredigion o “erlid mewnfudwyr o Loegr”, yn dilyn penderfyniad i godi treth ychwanegol ar ail gartrefi.

Mewn cyfweliad â rhaglen Y Byd ar Bedwar dywedodd Lavinia Cohn-Sherbok, sy’n rhannu ei hamser rhwng fflat yn Kensington ac ail gartref ym Mwlch-llan, fod bwriad y Cyngor i godi 25% ychwanegol ar Dreth Cyngor ar ail gartrefi yn tarddu ‘o gasineb at Saeson’.

“Y neges yw go home English, mae’n gas ’da ni Saeson,” meddai Lavinia Cohn-Sherbok, sy’n gyn-brifathrawes mewn ysgol i ferched yng Nghaint.

‘Teimladau gwrth-Seisnig’

Prynodd hi a’i gŵr, Dan, y tŷ ym Mwlch-llan yn 1997, pan gafodd swydd fel darlithydd Iddewiaeth ym Mhrifysgol Llanbed. Ymddeolodd Dan yn 2009, ond maen nhw wedi penderfynu cadw eu hail gartref yng Ngheredigion.

“Mae’r Cyngor yn moyn ‘mod i’n talu mwy. Pam? Achos ’mod i’n wicked English dw i’n credu, does dim rheswm arall.”

Mae’r pâr yn dweud y bydd y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn costio £400 yn ychwanegol iddyn nhw’r flwyddyn nesaf, ond maen nhw’n mynnu mai’r egwyddor, nid y swm, sy’n eu corddi.

“Dydw i ddim yn hoffi cael fy ngorfodi i dalu mwy na fy nghymdogion oherwydd rhagfarn a theimladau gwrth-Seisnig,” meddai.

“Ry’n ni’n Iddewon, ry’n ni’n dod o hanes lle ro’dd Iddewon, ble bynnag ro’n nhw’n byw, yn wynebu Treth Iddewon, treth ychwanegol. Ry’n ni’n fewnfudwyr, mae disgwyl i ni dalu treth ychwanegol, beth yw’r gwahaniaeth?

“Petai hwn, yn hytrach na bod yn dreth ar berchnogion ail gartrefi, yn dreth ar, dywedwch, bobol ddu, fyddai’r byd i gyd yn codi stŵr,” meddai.

‘Gwrthod honiadau’

Er hyn, mae Arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, wedi gwrthod yr honiadau mewn cyfweliad â’r Byd ar Bedwar.

“Dw i ddim yn derbyn y ddadl yna o gwbl. Mae gyda ni lawer iawn o Saeson sydd wedi mewnfudo ac sydd wedi dewis byw yma. Nawr mae’r rheiny yn byw yma’n barhaol, ma’ nhw’n cyfrannu i’r gymuned drwy’r flwyddyn ac maen nhw wedi cael eu croesawu,” meddai.

Mae hi hefyd yn gwrthod yr honiad bod hwn yn ymdebygu i’r dreth hanesyddol ar Iddewon.

“Chlywais i erioed am y ffasiwn dreth a fydden i ddim yn cefnogi unrhyw dreth o’r fath,” meddai.

Y dreth ychwanegol

 

O fis Ebrill nesaf ymlaen, bydd hawl gan bob awdurdod lleol ar draws Cymru i godi hyd at 100% ychwanegol o Dreth Cyngor ar ail gartrefi.

Hyd yn hyn, mae Ceredigion a Ynys Môn wedi penderfynu codi 25% ychwanegol ar ail gartrefi, ac fe fydd Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Benfro a Phowys yn codi 50% ychwanegol.

Mae bron i 2,000 o ail gartrefi yng Ngheredigion erbyn hyn, a’r Cyngor yn dweud bod hynny’n codi pris eiddo i bobol leol ar gyflogau is.

“Mae’r bobol ifanc leol yn methu fforddio byw yn y cymunedau lle maen nhw wedi cael eu magu, a dyna’r broblem sydd yn codi fan hyn,” meddai Ellen ap Gwynn.

“Mae croeso i bobol ddod yma ar eu gwyliau, i ddod yma i aros am faint bynnag maen nhw moyn, ond gadwch ein cartrefi ni yna i’n pobol leol ni.”

Bydd rhaglen Y Byd ar Bedwar yn cael ei darlledu heno am 9.30 yr hwyr ar S4C.