Y Senedd ym Mae Caerdydd
Mae criw o ymgyrchwyr wedi ymrwymo i gysgu tu allan i risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd heno, mewn ymgais i bwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau addysg Gymraeg i bawb.

Caiff yr wylnos ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac maen nhw’n disgwyl o gwmpas ugain o bobol i ymuno â nhw.

Bwriad yr wylnos yw galw ar Lywodraeth Cymru i drawsnewid y system addysg Gymraeg, gan waredu ag addysgu Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion, sydd wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar.

Eisoes mae Cymdeithas yr Iaith yn ystyried her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad i barhau i addysgu Cymraeg Ail Iaith, gan honni fod hynny’n mynd yn groes i bolisi’r Prif Weinidog ac adroddiad yr Athro Sioned Davies dair blynedd yn ôl.

‘Amddifadu o’r Gymraeg’

“Yn barod, mae 80,000 o blant wedi cael eu hamddifadu o’r Gymraeg o ganlyniad i’r oedi rhag cael gwared â’r cymwysterau ail iaith ers tair blynedd,” meddai Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Dyw’r newidiadau mawr sydd eu hangen, o ran hyfforddiant athrawon a chynyddu a normaleiddio dysgu cyfrwng Cymraeg ym mhob ysgol, ddim yn mynd i ddigwydd os nad oes amserlen i symud at un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl.

“Mae sicrhau bod pob disgybl yn rhugl eu Cymraeg wrth adael ysgol yn allweddol os ydyn ni am gyrraedd miliwn o siaradwyr.”

‘Colli cwsg dros y mater’

Yn cymryd rhan yn y digwyddiad hefyd mae’r beirdd, Osian Rhys Jones a Catrin Dafydd, wrth iddyn nhw ddarllen eu cerddi.

“Fe fydda i’n darllen cerddi yn yr wylnos ac yn cysgu dros nos hefyd,” meddai Catrin Dafydd wrth Golwg360.

 

“Dw i eisiau byw mewn gwlad lle mae hawl gan bob plentyn gael addysg cyfrwng Cymraeg yn hytrach na dim ond yr 20% ffodus yn unig.

“Mae angen i ni ddangos i Lywodraeth Cymru ein bod ni’n colli cwsg dros y mater. Dyw hi ddim yn iawn fod 80% o ddisgyblion yn cael eu gadael ar ôl.”

Bydd yr wylnos yn cychwyn am 6 yr hwyr heno ac yn parhau tan 10.30 bore dydd Mercher, Medi 28.