Delwedd o'r dyn y cafwyd hyd i'w gorff mewn coedwig Llun: Heddlu'r Gogledd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod wedi derbyn mwy na 40 o alwadau wedi iddyn nhw rhyddhau delwedd o ddyn y cafwyd hyd i’w weddillion mewn coedwig yng Ngherrigydrudion, Conwy’r llynedd.

Cafodd y llun artist ei gyhoeddi am y tro cyntaf ar raglen Crimewatch neithiwr fel rhan o apêl newydd i geisio adnabod y dioddefwr.

Ym mis Tachwedd, roedd dau frawd yn gwersylla mewn coedwig ger Pentrellyncymer, Cerrigydrudion pan ddaethon nhw o hyd i’r gweddillion dynol wrth chwilio am goed tân.

Daeth ymchwiliad i’r casgliad fod y dyn wedi marw o drawma i’w ben a dechreuodd yr heddlu ymchwiliad i’w lofruddiaeth. Er gwaetha eu hymdrechion, mae’r heddlu wedi methu adnabod y dyn.

Credir bod y corff wedi bod yn y goedwig am flynyddoedd.

Mae arlunydd fforensig blaenllaw ac odontolegydd wedi llunio darlun o sut y maen nhw’n disgwyl y byddai’r dyn wedi edrych gan ddweud ei fod fwy na thebyg yn ei 60au, rhwng 5’8 a 5’10.5′ o daldra, a’i fod ar un adeg wedi torri ei drwyn.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Iestyn Davies: “Fe fydd anwyliaid, ffrindiau, teulu a allai adnabod y person yma.

“Rydan ni wedi derbyn nifer o alwadau ac yn ymchwilio i nifer ohonyn nhw gan gynnwys enwau posib er mwyn ceisio adnabod yr unigolyn.

“Unwaith rydyn ni’n gwybod ei enw, fe allwn ni geisio darganfod pam fod y person yma wedi bod yn ddioddefwr, pwy fyddai’n gyfrifol am hynny a pham eu bod nhw eisiau ei ladd.”