Llun: PA
Mae disgwyl i adroddiad yr Athro Ian Diamond i drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, alw am newid sylfaenol.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu hyd at £5,100 y flwyddyn tuag at ffioedd dysgu myfyrwyr ond mae disgwyl i Adroddiad Diamond ddweud nad yw’r drefn bresennol yn gynaliadwy.

Mae disgwyl i’r adroddiad hefyd fynd i’r afael â’r cyfleoedd sydd ar gael i fwy o bobol fanteisio ar addysg uwch, diwallu sgiliau, cryfhau’r ddarpariaeth ran-amser ac ôl-radd a sicrhau cynaliadwyedd ariannol yn y tymor hir.

‘Anghynaladwy’

 

Wrth edrych ymlaen at ganfyddiadau’r adroddiad, dywedodd Llŷr Gruffydd llefarydd Plaid Cymru ar Addysg: “Rydw i’n hyderus fod yr Athro Diamond wedi dod i’r un canlyniad â Phlaid Cymru ac arbenigwyr eraill fod system bresennol y llywodraeth Lafur yn anghynaladwy ac angen ei ddadleoli.”

Dywedodd fod Plaid Cymru am weld system gyllido addysg uwch newydd yn cynnwys “ffordd i gadw sgiliau a denu pobol yn ôl i Gymru ar ôl graddio.

“Rydw i hefyd yn disgwyl y bydd unrhyw arbedion yn y system newydd yn cael eu hailgyfeirio yn ôl i sefydliadau addysg uwch, fel y gallwn gau’r bwlch rhwng prifysgolion yng Nghymru a chynghreiriaid yn Lloegr.”

Addysg Bellach

Mae’r elusen addysg ôl-16 yng Nghymru, Colegau Cymru, hefyd yn edrych ymlaen at glywed yr hyn fydd gan yr adroddiad i’w gynnig.

Yn ôl Iestyn Davies, Prif Weithredwr Colegau Cymru: “Ein blaenoriaeth yw pwysleisio bod unrhyw ateb a gynigir mewn perthynas â chyllido Addysg Uwch a chyllid myfyrwyr yn gweithio i holl ddysgwyr a myfyrwyr Cymru.

“Mae colegau a sefydliadau Addysg Bellach yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr fynd ar drywydd eu gyrfaoedd trwy lwybrau gradd yn ogystal â thrwy astudiaethau galwedigaethol ac yn chwarae rhan yr un mor bwysig o ran cyflawni anghenion sgiliau Cymru â’n cydweithwyr Addysg Uwch.”