Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cadarnhau bod criwiau’n delio â thân mawr yn ne Sir Benfro.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth bod criwiau o orsaf dân Doc Penfro, Dinbych y Pysgod ac Aberdaugleddau wrthi’n delio â thân yn ardal Gwynnog (St Twynnells) ger Castell Martin.

Yn ôl y gwasanaeth, mae lle i gredu fod y tân wedi dechrau o ganlyniad i ddeunydd gwastraff, a bod tua deunaw o ddiffoddwyr tân ar y safle.