Y paentiad Meleager and Atalanta' gan Jacob Jordaens (Llun: Plaid Cymru)
Mae darganfod paentiad gwerth £3 miliwn mewn storfa yn Amgueddfa Abertawe wedi atgyfnerthu galwadau i achub y sefydliad, yn ôl Aelod Cynulliad.

Mae arbenigwyr yn credu bod llun ‘Meleager and Atalanta’ gan yr artist Jacob Jordaens wedi’i baentio yn y 17eg ganrif a’i fod wedi bod ym meddiant yr amgueddfa ers tua 150 o flynyddoedd.

Ond dim ond yn ddiweddar y daethpwyd o hyd i’r gwaith enwog, ar ôl i’r hanesydd Bendor Grosvenor fusnesu mewn storfa wrth ffilmio ar gyfer y sioe deledu Fake or Fortune.

Mae’r Aelod Cynulliad Dai Lloyd o’r farn bod y darganfyddiad yn “tanlinellu’r ffaith fod gan Abertawe ased gwerthfawr dros ben” ac yn galw am sefydlu tasglu gyda’r nod o sicrhau dyfodol y lle.

Y toriadau

Fe allai’r amgueddfa wynebu haneru ei chyllideb dros y tair blynedd nesaf o dan gynlluniau arfaethedig Cyngor Abertawe.

Cafodd e-ddeiseb, gyda dros 5,000 o enwau arni, yn galw am achub yr amgueddfa,  ei chyflwyno i gyngor Abertawe’r mis hwn. Ond ni fydd y ddeiseb yn cael ei chymryd i ystyriaeth, gan fod y cyngor yn gwrthod derbyn e-ddeisebau fel rhan o’i bolisi.

“Mae’r newydd syfrdanol yma’n tanlinellu’r ffaith fod gan Abertawe ased gwerthfawr dros ben yn yr amgueddfa ac yn y Ganolfan Casgliadau yn yr Hafod,” meddai Dr Dai Lloyd o Blaid Cymru.

“Dyma rywbeth dylwn ni ei ddathlu a’i ddatblygu, nid ei redeg i lawr. Mae perygl gwirioneddol y gallai diswyddo staff allweddol olygu cau’r amgueddfa – cyflafan i Abertawe ac i Gymru gyfan.”

Ychwanegodd: “Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu tasglu ar y cyd gyda Chyngor Abertawe gyda’r nod o sicrhau dyfodol diogel i’r amgueddfa a’i gwasanaethau diwylliannol.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Abertawe am ei hymateb.