Gyda chan diwrnod i fynd tan ddechrau’r Eisteddfod, mae arlwy Maes B yr Eisteddfod eleni wedi’i gyhoeddi.

Bydd Maes B 2010 yn agor ar nos Sadwrn 31 Gorffennaf gyda Clinigol, Tokin4wa, Cyrion, El Parisa a DJ Nia Medi.

Yna, nos Lun a nos Fawrth, fe fydd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B yn cael ei chynnal.

Nos Fercher , fe fydd Derwyddon Dr Gonzo, Y Promatics, Creision Hud, Jen Jeniro a Just Like Frank yn perfformio.

Nos Iau, fe fydd Cate le Bon, Yr Ods, Plant Duw, Wyrligigs, Adrift a DJ Huw Stephens yn camu ar lwyfan y Maes i ddiddanu’r gynulleidfa.

Bydd penwythnos olaf yr Eisteddfod yn cychwyn gyda Bryn Fôn a’r Band, Gwibdaith Hen Fran, Y Bandana ac Y Betti Galws, a’r cyfan yn cloi ar nos Sadwrn 7 Awst, gydag Elin Fflur, Masters in France, Cowbois Rhos Botwnnog, Nos Sadwrn Bach, Crwydro a DJ Magi Dodd.

Bydd arlwy Maes C yn cael ei gyhoeddi ymhen rhai wythnosau ac mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn trefnu nosweithiau amgen yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy.

Bydd tocynnau’n mynd ar werth dros yr wythnosau nesaf.

Am ragor o fanylion am Maes B, ewch i www.maesb.com, neu www.facebook.com/maesb. Gallwch ddilyn Maes B ar Twitter www.twitter.com/maes_b.