Neil Hamilton Llun: Senedd.tv
Fe fydd arweinydd newydd UKIP, Diane James, yn ymweld â Chymru heddiw er mwyn cwrdd ag Aelodau Cynulliad y blaid.

Daw ei hymweliad yn dilyn adroddiadau am ffrae fewnol rhwng yr aelodau yng Nghymru ar ôl i Neil Hamilton feirniadu’r arweinydd newydd am gefnogi cyn-arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill.

Neil Hamilton bellach yw arweinydd y blaid yn y Cynulliad ar ôl i Nathan Gill gamu o’r neilltu. Roedd hyn yn dilyn cyhuddiadau nad oedd yn rhoi ei oll i’w swydd fel arweinydd am ei fod yn gwneud dwy swydd – y naill fel Aelod Cynulliad a’r llall fel Aelod Seneddol Ewropeaidd.

Ond ers iddi gael ei phenodi’n olynydd i Nigel Farage, mae Diane James wedi cefnogi’r cyn-arweinydd Nathan Gill.

Chwe Aelod Cynulliad sydd gan UKIP yn y Senedd erbyn hyn, ar ôl i Nathan Gill benderfynu eistedd fel aelod annibynnol.