Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ddyn a lladrad ger gorsaf drenau Llanelli y bore ma.

Cafodd waled dyn ei ddwyn yn dilyn ail ymosodiad arno am oddeutu 12.40yb.

Roedd y dyn yn cerdded ger safle tacsis Master Cabs pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.