Mae ymdrechion Jeremy Corbyn i ohirio penderfyniad ynghylch cynyddu nifer y cynrychiolwyr o Gymru ar Bwyllgor Gwaith Llafur wedi methu.

Mae’n ymddangos ei fod e hefyd yn ceisio atal cynrychiolwyr o Gymru a’r Alban rhag cael pleidlais lawn ar y Pwyllgor Gwaith.

Cafodd y newidiadau eu cymeradwyo yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ddydd Mawrth diwethaf, ac mae disgwyl pleidlais ddydd Mawrth yr wythnos hon yn ystod cynhadledd y blaid yn Lerpwl.

Ond fe geisiodd Corbyn sicrhau cefnogaeth fel y byddai modd gohirio’r bleidlais tan fis Medi nesaf.

Yn ôl ffynhonnell o fewn y Blaid Lafur, roedd cefnogwyr Corbyn hyd yn oed yn gwrthwynebu’r cynllun, yn ôl gwefan PoliticsHome.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Corbyn mai “trafodaethau” yn unig sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd, ac nad oes yna benderfyniadau cadarn eto.

Cabinet cysgodol

Yn y cyfamser, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu gohirio trafodaethau ynghylch rhoi pleidlais i aelodau seneddol y blaid ynghylch pwy ddylai fod yn aelodau’r cabinet cysgodol.

Fe fu trafodaethau eisoes rhwng Corbyn a Phrif Chwip y blaid, Rosie Winterton, ond dydyn nhw ddim wedi dod i gytundeb hyd yma.

Mae Corbyn hefyd yn ffafrio rhoi pleidlais i aelodau’r blaid wrth ddewis ei gabinet cysgodol, wrth i oddeutu dwsin o gyn-weinidogion a ymddiswyddodd ar ôl canlyniad refferendwm Ewrop ddweud y bydden nhw’n barod i ddychwelyd i’r cabinet cysgodol newydd.