Owen Smith, Aelod Seneddol Pontypridd
Owen Smith oedd y bachan o’r Cymoedd gyda mynydd go serth i’w ddringo er mwyn trechu Jeremy Corbyn a dod yn arweinydd y Blaid Lafur… Erbyn hyn, mae’n ymddangos fod ei ymgyrch a’i frwdfrydedd wedi cwympo dros y dibyn.

Tra bod ganddo fwyafrif o Aelodau Seneddol ei blaid ei hun yn ei gefnogi, mae hanes ei ymgyrch yn llawn camgymeriadau elfennol, wrth i Jeremy Corbyn dyfu’n fwy a mwy poblogaidd ymysg aelodau llawr gwlad.

Pan bleidleisiodd Aelodau Seneddol Llafur yn San Steffan yn erbyn eu harweinydd, Jeremy Corbyn o 172-40, roedd yn rhaid iddyn nhw ddewis rhywun i sefyll yn ei erbyn, neu gau eu cegau. Ac Owen Smith gafodd ei ddewis i herio’r arweinydd oedd yn gwrthod symud o’i swydd.

Y pethau da

Fe wnaeth Owen Smith, Aelod Seneddol Pontypridd, argraff ar ambell bwnc trafod.

– Roedd ei arddeliad tros yr angen i wledydd Prydain aros yn rhan o Ewrop, yn amlwg, ac yn wahanol i Corbyn, fe ymgyrchodd i’r perwyl hwnnw;

– Mae hefyd yn amlwg o blaid diwygio’r Blaid Lafur nes ei bod yn blaid a all ennill grym a ffurfio llywodtaeth unwaith eto – mae’n ddewis o hynny, neu dreulio degawdau yn y diffeithwch gwleidyddol, meddai.

– Tanlinellodd y peryg mawr sy’n wynebu’r Blaid Lafur. “Rydyn ni mewn peryg o wynebu cyfnod newydd – fel yr un hwnnw yn ystod fy arddegau i yn y 1980au – o dreulio cenhedlaeth, hyd at ugain mlynedd, dan lywodraeth y Torïaid.”

Y camau gwag 

– Mae Owen Smith yn ei ddisgrifio ei hun yn “ffeminydd”, ond eto fe wrthododd ymddiheuro ar ôl cyfadde’ ei fod eisiau taro Theresa May “yn ôl ar ei sodlau” wedi araith a roddodd ar drothwy 10 Stryd Downing. Fe newidiodd ei feddwl yn y man…

– Fe gododd ambell ael pan awgrymodd Owen Smith y byddai’n rhaid i’r Gorllewin drafod gydag IS, ymhen y rhawg. Fe neidiodd Jerermy Corbyn ar y sylwadau – ac yntau’n cael ei farnu gan rai o fod yn rhy barod i siarad â therfysgwyr – gan ddweud fod AS Pontypridd wedi siarad “yn ddifeddwl”;

– Ond efallai mai bagliad mwya’ Owen Smith oedd ymddangos fel pe bai’n galw Jeremy Corbyn yn “ddyn lloerig”… ac yna clymu ei hun yn glymau wrth geisio gor-egluro be’n union oedd ystyr y geiriau a ddefnyddiwyd. “Doeddwn i ddim yn siarad am Jeremy,” meddai, “ro’n i’n siarad amdana’ i fy hun.”