Mae dwy o brifysgolion Cymru wedi rhagori yn y flwyddyn ddiwethaf yn ôl rhestr newydd o brifysgolion gorau Prydain.

Prifysgol Abertawe yw’r brifysgol orau yng Nghymru yn ôl tabl cynghrair The Times and The Sunday Times Good University Guide 2017, ac yn cael ei gosod yn safle rhif 44 ar restr o brifysgolion gorau gwledydd Prydain.

Ar ben hynny, mae Abertawe hefyd wedi cipio gwobr Prifysgol y Flwyddyn Cymru – gwobr newydd sbon a ddyfarnwyd am y tro cyntaf eleni.

Yn ogystal, am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith y dringwyr mwyaf yn rhifyn diweddaraf y canllaw sy’n cael ei gyhoeddi ddydd Sul yma. Mae’r brifysgol wedi llamu 23 lle yn y tabl ar gyfer 2017, ac yn codi o safle rhif 79 i 56.

Mae’r tabl cynghrair yn defnyddio naw ‘mesur perfformiad’ gan gynnwys bodlonrwydd myfyrwyr o safbwynt ansawdd y dysgu a’u profiad ehangach fel myfyrwyr, ansawdd yr ymchwil, rhagolygon graddedigion, cymwysterau mynediad myfyrwyr newydd, canlyniadau gradd, y gymhariaeth rhwng nifer y staff a’r myfyrwyr, gwariant ar wasanaethau ac adnoddau, a chyfraddau myfyrwyr sy’n cwblhau eu cynlluniau gradd.

Abertawe

Yn ôl Prifysgol Abertawe, mae’r llwyddiant yn adlewyrchu cynllun datblygu campws uchelgeisiol y Brifysgol ac mae nifer o geisiadau i’r Brifysgol wedi cynyddu dros 60% dros y tair blynedd diwethaf.

Meddai Alastair McCall, Golygydd The Sunday Times Good University Guide: “Mae Prifysgol Abertawe yn llawn haeddu derbyn ein gwobr Prifysgol y Flwyddyn Cymru. Mae agor Campws y Bae wedi cael effaith drawsnewidiol ar y brifysgol, gan gynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr, a hynny mewn lleoliad gwych, gan ddenu mewnfuddsoddiad enfawr ar ffurf prosiectau ymchwil.

“Mae’r campws newydd hefyd wedi effeithio’n sylweddol ar niferoedd myfyrwyr y brifysgol, sgan wneud Abertawe yn hynod ddeniadol i fyfyrwyr o Gymru a thu hwnt.”

Aberystwyth

Yn ôl The Times and The Sunday Times Good University Guide 2017 mae datblygiad Aberystwyth wedi bod yn “drawsnewidiad hynod” o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl.

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: “Mae rhifyn diweddaraf The Times and The Sunday Times Good University Guide yn brawf pellach bod Aberystwyth yn lle eithriadol o ran dysgu a byw.

“Am yr ail flwyddyn yn olynol, rydyn ni wedi cymryd camau arwyddocaol ymlaen yn y tabl cynghrair yma, ac mae’r llwyddiant hwnnw wedi’i yrru gan ansawdd ein dysgu, ein hymchwil safon byd-eang, ein cynlluniau cyflogadwyedd a’n lefelau uchel o fodlonrwydd myfyrwyr. Mae’r ystadegau  diweddaraf hefyd yn dyst i waith caled ein staff yma yn Aber ac i uchelgais ein myfyrwyr.”