Criw Y Ddolen a'r ceffyl a chert.
Mae un o bapurau bro Ceredigion yn cael ei ddosbarthu ar drên stêm ac ar geffyl a chert heddiw, mewn ymgais i ddenu darllenwyr newydd.

Hefyd roedd pwyllgor Y Ddolen eisiau dathlu cyhoeddi’r papur bro mewn lliw am y tro cyntaf.

“Mae’n ychydig o antur, ond mae’n ffordd i ddathlu’n hardal a thynnu sylw at ein papur bro,” meddai Enfys Evans, un o olygyddion papur bro Y Ddolen gafodd ei sefydlu yn 1978 i wasanaethu ardaloedd Ystwyth ac Wyre yng ngogledd Ceredigion.

‘Cam mawr’

Gyda thrên bach yn rhedeg drwy’r ardal, roedd hi’n anorfod nodi’r achlysur drwy ddanfon y copïau o orsaf Aberystwyth i Bontarfynach, ynghyd â threfnu ceffyl a chert i’w cludo drwy bentrefi Capel Seion, Pant-y-crug a Phisgah.

“Mae’n ddigwyddiad cyffrous iawn,” meddai Enfys Evans.

“Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi clawr y papur mewn lliw unwaith i nodi’r rhifyn 400 y llynedd, ond eleni, penderfynom ei bod yn bryd cymryd y cam mawr a chyhoeddi’r cyfan mewn lliw.

“Mae’n bwysig ceisio denu darllenwyr newydd a’r to ifanc bob amser, ac roeddem yn teimlo fod bwlch gyda ni o ran darllenwyr gyda llawer o bobl ifanc yn gwybod amdano, ond ddim yn ei brynu’n fisol efallai.”

Ychwanegodd bod eu hymdrech ddiweddar ar y cyfryngau cymdeithasol wedi denu tanysgrifwyr newydd.

“Yn sicr, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych i gysylltu â phobl yr ardal, a’n gobaith yw ceisio codi ymwybyddiaeth y rheiny sydd wedi colli cysylltiad a’u hannog i droi at y papur bro.”

Ac i gloi eu dathliadau, bydd taith gerdded noddedig tua 20 milltir yn cael ei chynnal drwy bentrefi’r papur bro yfory, o Gwmystwyth i Lanrhystud, gyda’r elw’n mynd at ddwy elusen leol, Apêl Elain ac Apêl Seren.