Caryl Parry Jones ar Radio Cymru Mwy fore Mercher.
Mae golygydd Radio Cymru wedi dweud bod wythnos gyntaf Radio Cymru Mwy – yr orsaf radio dros dro – wedi “mynd yn dda”.

Yn ôl Betsan Powys mae adroddiadau cynnar yn dangos bod nifer fawr o’r gynulleidfa’n gwrando ar Radio Cymru Mwy drwy ap radio’r BBC.

Mae modd gwrando ar Radio Cymru Mwy ar wefan facebook, ac roedd 21 yn gwneud hynny ar ddiwedd rhaglen Caryl Parry Jones fore Mercher yr wythnos hon.

Ychwanegodd Betsan Powys bod technoleg yn gweithio o blaid y gwasanaeth newydd a bod y gynulleidfa’n gwrando o lefydd mor bell ag Awstralia a De Affrica.

Bwriad Radio Cymru Mwy yw cynnig mwy o gerddoriaeth a sgyrsiau a sioe frecwast foreol, ac mae modd gwrando ar yr orsaf rhwng saith y bore a hanner dydd bob dydd tan fis Ionawr.

Mae’r cyflwynwyr yn cynnwys Caryl Parry Jones, Ifan Evans, Huw Stephens, Dylan Ebenezer, Steffan Alun, Elan Evans a Gwennan Mair.

Modd gwrando drwy deledu

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “Ar ddiwedd wythnos gyntaf yr arbrawf, dw i’n credu y gallwn ni ddweud fod pethau wedi mynd yn dda.

“Mae’r dechnoleg wedi bod o’n plaid ac adroddiadau cynnar yn dangos fod nifer fawr o’r gynulleidfa yn gwrando ar Radio Cymru Mwy drwy ap radio’r BBC – a’r gynulleidfa honno yn gwrando o bell ac agos gyda chyfarchion yn ein cyrraedd o Awstralia a De Affrica hyd yn oed.

“Mae hefyd yn braf cael dweud fod modd gwrando ar yr arlwy drwy’r teledu erbyn hyn hefyd – ar Freeview, Freesat, Youview a bydd ar Sky cyn diwedd y mis.”

Mae modd gwrando ar yr orsaf ar wefan Radio Cymru Mwy, ar ap BBC iPlayer Radio ac fel dewis ar radio digidol DAB yn y de ddwyrain – a hynny tra bo amserlen arferol Radio Cymru yn parhau ar y tonfeddi.