Esgob Bangor yn ymarfer ar gyfer Marathon Eryri
Mae Esgob Bangor wedi cyhoeddi y bydd yn rhedeg Marathon Eryri ddiwedd mis Hydref, a hynny er mwyn codi arian i gefnogi gwaith gwirfoddolwraig – Caroline Gregory – yng ngwersyll ffoaduriaid Y Jyngl yn Calais.

Dyma’r pedwerydd tro i’r Gwir Barchedicaf Andy John herio llethrau llethol y ras sy’n cael ei hystyried yn un ddidrugaredd o gwmpas godre’r Wyddfa. Pan fentrodd yn 2014, fe orffennodd mewn amser parchus iawn o 3 awr 40 munud.

“Dw i wedi bod yn cynyddu nifer y milltiroedd yn raddol, ac mae’r hyfforddi’n mynd yn iawn hyd yma,” meddai Andy John. “Dw i’n cael rhyw syniad o déjà-vu mewn ffordd, oherwydd fy mod yn nabod y cwrs o’r troeon cynt ac yn gwybod beth i’w ddisgwyl… ac mae yna rannau o’r cwrs dw i ddim yn edrych ymlaen atyn nhw o gwbwl!

“Ond mae rhoi fy hun trwy’r boen yn fwy posib pan dw i’n meddwl bod rhywbeth mwy yn gallu dod ohono,” meddai wedyn. “Dw i’n gobeithio’n fawr y bydd pobol yn fy noddi, ac felly’n gwneud cyfraniad bach i gynorthwyo i ddod â gofal a chariad Cristnogol i’r ffoaduriaid yn y gwersyll yn Calais. #

“Mae pethau’n mynd yn waeth yno ar hyn o bryd oherwydd bod mwy a mwy o bobol wedi bod yn cyrraedd bob dydd dros yr wythnosau diweddar, a dydw i ddim yn gallu dychmygu sut y bydd cyflwr pethau yn y gwersyll Jyngl.

“Caroline Gregory oedd un o ddau o bobl y bu i mi eu cyfarfod ym mis Ebrill, ac mi ddes i sylweddoli eu bod yn unigolion iawn a bod eu gwaith dyngarol a’u gweinidogaeth yn dod â chariad a goleuni i le oedd ar adegau yn llawn cysgodion, yn dywyll ac yn annynol.”

Pwy ydi Caroline Gregory?

Rhoddodd Caroline Gregory y gorau i’w gwaith yn newyddiadurwraig oherwydd ei bod yn teimlo ei bod yn cael ei galw i wasanaethu’r ffoaduriaid yng ngwersyll Calais.

Rhoddion sy’n talu am ei gwaith hi yno trwy fudiad Help Refugees, a hynny gan bobol o ffydd a phobol ddi-gred o wledydd Prydain a thu hwnt.

Fe welodd yr Esgob Andy John y gwaith y mae Caroline Gregory ac eraill yn ei wneud drosto’i hun ym mis Ebrill eleni, pan fu ar ymweliad yno fel rhan o o grŵp aml-ffydd o ogledd Cymru.