Yn ôl yr arolwg barn diweddaraf, mae Jeremy Corbyn yn fwy poblogaidd yng Nghymru na’i wrthwynebydd yn ras arweinyddiaeth Llafur, Owen Smith.
Er bod Owen Smith yn Gymro ac yn Aelod Seneddol i Bontypridd, dywedodd 32% o bobol mai Jeremy Corbyn fyddai’n cael eu pleidlais nhw, o gymharu â 27% i Owen Smith.
Roedd 41% o’r 1,001 o bobol a gafodd eu holi ddim yn gwybod i ba ddyn fyddan nhw’n pleidleisio.
O bleidleiswyr Llafur yng Nghymru, roedd y ffigwr yn uwch, gyda 47% yn cefnogi Corbyn a 30% yn nhîm Smith.
Poblogrwydd y Torïaid
Ond mae’r arolwg YouGov ar gyfer ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn dangos bod cefnogaeth i’r Ceidwadwyr ymhlith pobol Cymru ar ei lefel uchaf ers chwe blynedd.
Dyma’r pôl piniwn cyntaf i’w gael ei wneud yng Nghymru ers i Theresa May ddod yn arweinydd y Ceidwadwyr ym Mhrydain ac yn Brif Weinidog.
Mae’r blaid wedi gwneud 6% yn well na wnaeth yn yr arolwg diwethaf, pan holwyd pobol i bwy fyddan nhw’n pleidleisio yn etholiad cyffredinol San Steffan.
“Yn gyffredinol, mae’r arolwg newydd hwn yn dangos cynnydd sylweddol yn ffawd y blaid Geidwadol,” meddai’r Athro Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
“Mae hyn yn cadarnhau bod y darlun ehangach sydd wedi’i nodi mewn arolygon diweddar ledled Prydain yn berthnasol yng Nghymru hefyd.
“Dyw hi ddim yn anarferol i Brif Weinidogion newydd, neu arweinyddion pleidiau mawr fwynhau cyfnod o fis mêl.
Er bydd mis mêl Theresa May yn debygol o bara’n hirach nag un Jeremy Corbyn, ar ôl iddo gael ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur, mae Roger Scully’n rhybuddio bod pob cyfnod tebyg yn dod i ben rhyw ben.
Newyddion gwael i Blaid Cymru
Neidiodd Llafur 1% ymlaen, o gymharu â cholli 5% o gefnogaeth yn y pôl tri mis yn ôl, tra bod Plaid Cymru wedi syrthio yn ôl 3% y tro hwn.
Ar eu hôl nhw mae UKIP, a syrthiodd 2% a’r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd wedi mynd yn ôl 1%.
Yn ôl Roger Scully, ar sail y canlyniadau hyn a phe bai Etholiad Cyffredinol yn digwydd fory, byddai Llafur yn ennill 24 sedd, gan golli Ynys Môn.
Plaid Cymru fyddai’n ennill y sedd honno, gan gael cyfanswm o 4 sedd, gyda’r Torïaid yn dal i feddu ar 11 sedd a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal i gadw un.
Ond dan y ffiniau etholaethau newydd, a allai ddod i rym cyn yr etholiad nesaf, byddai Llafur yn cael 15 sedd, y Ceidwadwyr ar 10, Plaid Cymru yn cael 3 a’r Democratiaid Rhyddfrydol o hyd ar 1.
Y ffigurau
Y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi gweld y gwelliant mwyaf yn ei pherfformiad o ran etholiadau’r Cynulliad hefyd, gan gynyddu ei phleidlais 5%.
Ond Llafur Cymru sydd yn dal i fod ar y blaen gyda 34%, gan gynyddu 2% ers yr arolwg diwethaf.
Mae Plaid Cymru, UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol i gyd wedi colli 1% o gefnogaeth ers yr arolwg ym mis Gorffennaf, gyda Phlaid ar 20%, UKIP ar 13% a’r Democratiaid ar 6%.
Mae canlyniadau’r seddi rhanbarthol yn rhywbeth tebyg, a fyddai’n arwain at y casgliad hwn, pe bai etholiadau’r Cynulliad yn cael eu cynnal yn syth.
Llafur 26 sedd (25 etholaeth, 1 rhanbarthol) Ceidwadwyr 14 sedd (8 etholaeth, 6 rhanbarthol)
Plaid Cymru 12 sedd (6 etholaeth, 6 rhanbarthol) UKIP 7 sedd (7 rhanbarthol) a’r Democratiaid Rhyddfrydol 1 sedd (1 etholaeth).