Mae mab dynes 65 oed a gafodd ei lladd yn ei chartref yng Nghaerdydd wedi dweud wrth y dyn sydd wedi’i gyhuddo o’i llofruddio “nad oes yr un ddedfryd yn ddigon hir” all wneud yn iawn am ei drosedd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y ddynes fusnes, Christine James, wedi cael ei chanfod mewn pwll o waed yng nghyntedd ei fflat moethus yn y Bae gydag agen yn ei gwddf.

Fe wnaeth ei chymydog Kris Wade, 36, bledio’n euog i’r llofruddiaeth ddechrau’r mis ac mae wedi’i ddedfrydu heddiw i oes o garchar.

Clywodd y llys nad oedd erioed wedi cwrdd â’r dioddefwr, a oedd i fod mynd ar wyliau i Fflorida, cyn y digwyddiad. Mae e’n honni nad oes ganddo gof o’r llofruddiaeth.

Mae erlynwyr yr achos yn dadlau bod y drosedd wedi’i chymell gan resymau rhywiol.

“Mam garedig a thyner”

Mewn datganiad, dywedodd mab Christine James, Jason, yn y llys fod ei fam wedi cael ei “lladd mewn ffordd giaidd.”

“Roedd hi’n fam garedig a thyner ac yn fam-gu wych,” meddai.

“Dydy Kris Wade heb gynnig unrhyw eglurhad, heb sôn am edifeirwch, am ei weithredoedd. Galla i ond gweddïo ei bod hi’n anymwybodol pan wnaeth daro’r ergyd olaf.

“Dwi ddim yn crio’n ddyddiol, dwi’n crio bob awr ac mae fy mhlant yn ei chael hi’n anodd i ddigymod â marwolaeth eu mam-gu.

“Dydw i ddim yn credu bod Wade yn methu cofio digwyddiadau’r diwrnod hwnnw. Does ‘na ddim dedfryd digon hir a fyddai’n adlewyrchu’r poen a achosaist i fy mam a’m teulu,” meddai wrth Kris Wade, oedd yn ymddangos drwy gyswllt fideo.

Cafodd corff Christine James ei ddarganfod ar Fawrth 2 eleni, wrth i’r heddlu chwilio yn ei fflat yn Llys Hansen, Century Wharf, pum munud o Orsaf yr Heddlu Bae Caerdydd.