Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn marwolaeth dyn tra’r oedd yn gweithio ar oleuadau stryd ar Ffordd Blaenau’r Cymoedd, yr A465, ddydd Mercher.

Mae dyn 39 oed wedi cael ei arestio ac wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i Heddlu De Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ymchwilio i farwolaeth y dyn 42 oed.

Dywedodd yr heddlu y bu ‘digwyddiad’ am tua 3 y prynhawn ar yr A465 rhwng Cefn Coed a Chylchfan y Baverstocks. Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty’r Tywysog Siarl, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae swyddogion am glywed gan unrhyw un a oedd yn teithio drwy’r ardal rhwng dau a thri o’r gloch prynhawn Mercher ac a welodd gwaith yn cael ei wneud ar y goleuadau cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd.