CJ (canol) gyda phanel y pencampwyr cwis Eggheads
Mae cyn-aelod o banel rhaglen gwis Eggheads y BBC wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth honedig, yn dilyn cyffesiad yn ei hunangofiant ei fod wedi lladd dyn yn Amsterdam.

Y mae CJ de Mooi, sy’n byw yn Sir Fynwy, wedi cael ei arestio dan warant am lofruddiaeth honedig dros 20 mlynedd yn ôl.

Cafodd CJ de Mooi – neu Joseph Connagh, o roi iddo ei enw iawn – ei arestio yn maes awyr Heathrow ddoe, ac fe fydd ymddangos yn Llys Ynadon Westminster heddiw.

Fe gyfaddefodd CJ De Mooi yn ei hunangofiant, ei fod, o bosib, wedi lladd dyn ar ol iddo ei ddyrnu pan ddaeth ato gyda chyllell. Roedd hynny yn 1988, pan oedd yn byw ar y stryd yn ninas Amsterdam. Mae’n dweud hefyd yn ei lyfr iddo daflu’r corff i’r gamlas.

“Fe wnaeth o fy nal ar ddiwrnod anghywir, ac fe wnes i wylltio,” meddai yn y llyfr. “Dw i’n tybio fy mod wedi’i ladd. Does gen i ddim syniad beth ddigwyddodd iddo.”

Fe ddaeth CJ de Mooi yn banelydd ar raglen Eggheads ar BBC 2, ar ôl llwyddo i ennill y cwis yn 2003.