Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r Blaid Lafur am wrthod ei chynnig yn y Senedd ddoe i nodi pwysigrwydd bod yn aelod llawn o Farchnad Sengl Ewrop.

Fe gyflwynodd Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas, y cynnig i’r Cynulliad ond fe wnaeth Llafur bleidleisio gyda gwelliant y Ceidwadwyr i’r cynnig oedd yn nodi pwysigrwydd o gael mynediad i’r farchnad yn unig.

Yn ôl Plaid Cymru, mae hyn yn golygu mai’r Cynulliad yw’r sefydliad gwleidyddol cyntaf yng ngwledydd Prydain i ddatgan ei fod “yn erbyn” aelodaeth o’r Farchnad Sengl wedi Brexit.

Aelod/mynediad – ‘dim ots’

Mewn cyfweliad â golwg360 ddechrau’r wythnos, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, nad oedd ots os bydd Cymru’n aelod o’r farchnad sengl neu ddim, ond mai mynediad oedd yn bwysig.

Dywedodd fod aelodaeth yn golygu “bydd pobol yn dal i allu symud rownd Ewrop” ac mai un model posib fyddai i gael foratoriwm (gohiriad) am saith mlynedd ar ryddid pobol i symud ledled Ewrop.

Roedd cynnig y Ceidwadwyr yn y Senedd hefyd yn gofyn am “eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd” ar ôl i Brexit ddigwydd.

Brexit “caled” ar y gorwel

Yn dilyn y bleidlais, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price, fod Llafur Cymru wedi “pleidleisio gyda’r Torïaid yn erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru.”

“Oherwydd y ffordd mae Llafur wedi pleidleisio, cafodd polisi Brexit caled David Davis (Ysgrifennydd Gwladol Prydain dros adael yr UE) yn awr ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Mae hwn yn ddiwrnod du i Gymru wrth i’r Cynulliad Cenedlaethol ddod i’r amlwg fel y senedd gyntaf yn yr ynysoedd hyn i bleidleisio o blaid Brexit caled, ac i ildio unrhyw ddylanwad posib i sicrhau’r fargen orau i Gymru, diolch i’r ffaith fod Llafur wedi cynghreirio gyda’r Toriaid.”

Mae Plaid Cymru yn y gorffennol wedi cyhuddo Carwyn Jones o “ddiffyg eglurder” ar ei safbwynt dros aelodaeth Cymru o’r Farchnad Sengl.

“Un funud, roedd Llafur o blaid aelodaeth lawn, a’r funud nesaf, dim ond mynediad; un funud, roeddent eisiau rhyddid pobl i symud, a’r funud nesaf yr oeddent yn galw am foratoriwm ar ryddid symud,” ychwanegodd Adam Price.

Mae golwg360 wedi gofyn am sylw gan Lafur Cymru ar y bleidlais.