Phylip Hughes gyda rhai o werysllwyr Y Jyngl, Calais
Peidiwch ag anghofio am ffoaduriaid y Dwyrain Canol sydd mewn gwersylloedd yn Calais wrth i dywydd oer y gaeaf nesau. Dyna blê actor Cymraeg sydd newydd ddychwelyd o gyfnod yn gwirfoddoli yn y Jyngl.

Mae Phylip Hughes yn fwy adnabyddus am bortreadu cymeriad Mr Lloyd ar y gyfres ddrama, Rownd a Rownd, neu fel Stan Bevan ar Pobol y Cwm, neu hyd yn oed y gwas o dedi-boi, Bleddyn, yn y gomedi Hafod Henri.

Ond fe ddaeth yn wyneb cyfarwydd ar y gwefannau cymdeithasol y mis diwetha’ hwn wrth i elusen Care4Calais rannu stori amdano’n rhoi ei esgidiau oddi am ei draed ei hun i ffoadur oedd bron â bod yn droednoeth.

Yng nghylchgrawn Golwg heddiw, mae’r actor 79 oed yn apelio ar i bobol Cymru gofio am y 9,000 o ffoaduriaid sy’n byw mewn pebyll ger porthladd Calais.

“Oherwydd fod yr argyfwng yma’n dechrau pylu ym meddyliau pobol, mae nifer y rhoddion yn mynd i lawr ac i lawr” meddai Phylip Hughes. “Felly mae angen mwy a mwy o roddion…

“Mae angen blancedi a sachau cysgu… mae’r argyfwng yma yn dal i fynd yn ei flaen, ac mae angen blancedi a sachau cysgu ar gyfer y gaeaf.”

Gallwch ddarllen y cyfweliad llawn gyda Phylip Hughes, ynghyd â phortread o’r actor, yng nghylchgrawn Golwg heddiw.