Mae plac glas yn cael ei ddadorchuddio yn Abertawe yr wythnos hon, er cof am Saunders Lewis.

Mae’r plac wedi’i osod ar adeilad Tŷ Mawr, Stryd Hanover, a bydd Arglwydd Faer y ddinas, y Cynghorydd David Hopkins, yn ei ddadorchuddio fory (dydd Iau) yng nghwmni’r academyddion Prys Morgan a Robert Rhys.

Pam plac?

Ar ôl gwasanaethu’r Fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc a Groeg, dychwelodd Saunders Lewis i Brifysgol Lerpwl, ger ei fan geni yn Wallasey, ac ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Saesneg.

Aeth yn llyfrgellydd yn Sir Forgannwg cyn cael ei benodi’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Coleg Prifysgol Abertawe yn 1922 o dan yr Athro Henry Lewis.

Priododd â Margaret Gilcriest yn 1924, ac fe aned eu merch Mair yn 1925, y flwyddyn y bu Saunders Lewis yn flaenllaw wrth sefydlu Plaid Cymru.

Bu’n rhaid iddo ymddiswyddo yn 1936 yn sgil ei ran yn helynt llosgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth, pan gafodd ei garcharu am naw mis yn Wormwood Scrubs.

Saunders yn rhannu barn

Ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar, fe fu’n rhaid i Goleg Prifysgol Abertawe benderfynu a fyddai’n cael dychwelyd yno. Roedd barn Cyngor y Brifysgol yn rhanedig unwaith eto – 12 o blaid a 12 yn erbyn.

Cafodd y Brifysgol wybod gan gwmni arfau oedd yn noddi swydd Cadair y Coleg y bydden nhw’n tynnu eu nawdd yn ôl pe bai Saunders Lewis yn cael dychwelyd yno’n ddarlithydd.

Protestiodd Cyngor Llafur y Dref yn erbyn y penderfyniad, ond yn ofer.

Aeth wedyn yn newyddiadurwr a darlithydd achlysurol cyn cael ei benodi’n Brif Ddarlithydd yng ngholeg y Brifysgol Caerdydd, lle treuliodd bum mlynedd olaf ei yrfa cyn ymddeol i Benarth, lle bu farw yn 1985.