Mae hysbysebion wedi ymddangos yn y wasg yn rhybuddio bod degau o filoedd o bobol ifanc yn cael eu hamddifadu o’r Gymraeg oherwydd i Lywodraeth Cymru beidio gweithredu adroddiad a gyhoeddwyd union dair blynedd yn ôl.

Mae’r ymgyrch hysbysebion yn cyd-daro â dadl yn y Senedd ar y mater heddiw. Mae’r hysbysebion yn honni bod “80% o bobol ifanc Cymru ar eu colled” o beidio â derbyn addysg cyfrwng Cymraeg a bod “tair blynedd o oedi gan y Llywodraeth”  golygu bod “80,000 o blant wedi colli hawl i’r Gymraeg” dros y cyfnod ers cyhoeddi adroddiad.

Bore heddiw, bydd fan hysbysebu o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd yn datgan yr un neges.

Pa adroddiad yw hwn?

Ym mis Medi 2013, derbyniodd Llywodraeth Cymru adroddiad gan yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd oedd yn galw am newidiadau ‘brys’, gan gynnwys cael gwared â’r cysyniad o ddysgu’r Gymraeg fel ‘ail iaith’ ac yn lle hynny i symud at un continwwm o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynyddol ym mhob ysgol.

Fis Rhagfyr llynedd, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ei fod “o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi bwriad i herio’n gyfreithiol benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw’r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith, gan honni ei fod yn groes i bolisi’r Prif Weinidog i’w ddileu.

Amddifadu

Yn siarad cyn lansiad yr hysbyseb o flaen y Senedd, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  “Mae’r oedi wedi amddifadu degau o filoedd o blant rhag caffael y Gymraeg. Mae cyfrifoldeb ar ein gwleidyddion i ddod â’r system bresennol i ben, a’i thrawsnewid er lles y tua wythdeg y cant o’n pobl ifanc sy’n cael eu hamddifadu o’r Gymraeg bob blwyddyn ar y funud.

“Mae pawb yn derbyn bod angen newidiadau radical, ond mae swyddogion wedi methu â gweithredu prif argymhellion adroddiad Yr Athro Sioned Davies ers tair blynedd.

“Mae angen trawsnewid y system nid twtio ar yr ymylon. Dywedodd adroddiad Sioned Davies a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi 2013 bod angen diddymu Cymraeg Ail Iaith a sefydlu un continwwm dysgu’r Gymraeg ac un cymhwyster newydd i bob plentyn yn ei le.

“Yn y tair blynedd ers cyhoeddiad adroddiad ‘brys’ Yr Athro Davies, does braidd dim byd wedi newid. Mae’n hanfodol bod dysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn dod i ben yn 2018 gan sefydlu un cymhwyster cyfun i bob disgybl yn ei le.”