Fe ddaeth tua 200 o bobol i’r Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd neithiwr i glywed am gynlluniau’r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer cynnal y brifwyl yn y brifddinas yn 2018.

Heb faes traddodiadol, na thâl mynediad i fynd ar y maes ei hun, Eisteddfod “arbrofol” fydd hon, meddai’r Prif Weithredwr, Elfed Roberts, a does dim sicrwydd y bydd yn arbrawf llwyddiannus chwaith.

Ond mae’r cyfle yn un sy’n “rhy dda i’w golli”, gyda’r Eisteddfod yn gobeithio denu pobol newydd ati pan ddaw i Fae Caerdydd yn 2018.

Y tro diwethaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal yn y brifddinas oedd ar Gaeau Pontcanna yn 2008, gyda Chyngor Caerdydd wedi cyfrannu’n sylweddol yn ariannol tuag at y Brifwyl y flwyddyn honno.

Colli £400,000

Clywodd pobol Caerdydd neithiwr fod y cynni ariannol ymhlith cynghorau sir yn ddiweddar yn golygu nad oedd modd i Gyngor y ddinas gynnig yr un fath o gymorth ariannol ac y byddai’r gost o logi tir Pontcanna, yn ogystal â chostau adfer y tir wedi’r Eisteddfod yn dod at £500,000.

Yn 2008, Cyngor Caerdydd a dalodd y gost o adfer y tir, a oedd dros £400,000 ar y pryd.

Felly, cymysgedd o drio rhywbeth newydd, yn ogystal ag arbed rhywfaint o arian, ac ymarferoldeb, oedd y tu ôl i’r penderfyniad o gynnal Eisteddfod di-faes yn y Bae yn 2018.

Bydd mynediad am ddim i bawb i’r maes ei hun, gan olygu bod yr Eisteddfod yn colli £400,000 yn syth o’r incwm sydd fel arfer yn cael ei wneud drwy godi pris mynediad.

Bydd tâl yn cael ei godi fodd bynnag i bobol sydd am fynd i ddigwyddiadau gwahanol yn ystod yr ŵyl, fel cael sedd gadw yn y Pafiliwn, i’r cyngherddau ac i ambell seremoni hefyd.

Safleoedd Eisteddfod 2018

Fe gadarnhaodd trefnyddion yr Eisteddfod ei bod wedi cael sicrwydd y byddai’n gallu defnyddio’r mannau canlynol ar gyfer gweithgareddau 2018:

– Canolfan y Mileniwm

– Canolfan yr Urdd

– Rhannau o adeilad y Senedd

– Tŷ Hywel

– Adeilad y Pierhead

Fe fydd rhannau o diroedd Pontcanna hefyd yn cael eu defnyddio fel maes carafanau a gwersyllfa.

‘Dim sicrwydd’ o lwyddiant

“I ni, roedd rhywbeth ychydig bach yn chwithig i ddod yma i Gaerdydd a defnyddio adeiladau dros dro a gymaint o adnoddau yma yn y brifddinas,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wrth golwg360.

“Felly, roeddwn ni’n awyddus i drio gwneud yr arbrawf yma i weld sut fysa’r Eisteddfod yn ffitio yn y Bae. Mae Canolfan y Mileniwm yn un o adeiladau mwyaf eiconig Prydain, ac y byddai’n braf gweld yr Eisteddfod yno.

“Wrth gwrs, dim ond cychwyn ar y gwaith ydyn ni rŵan, mae gennym ni dipyn o waith i wneud, ac rydan ni’n barod iawn i drafod syniadau efo pawb.

“Mi oedd ‘na wrthwynebiad pan oeddem ni’n trio sefydlu Maes B, oedd ‘na wrthwynebiad pan oeddem ni’n trio cael bar ar y maes a llwyfan y maes, a Thŷ Gwerin.

“Mae’r rheina i gyd wedi gweithio, does ‘na ddim sicrwydd y bydd yr ŵyl yma’n llwyddiannus ond rydan ni’n gobeithio y bydd hi wrth gwrs.”

Dyma farn pobol leol i’r cynlluniau