Mae 21 aelod o staff Amgueddfa Cymru wedi cael cynnig gadael eu swyddi trwy Gynllun Diswyddo Gwirfoddol yn sgil toriadau i gyllideb y sefydliad.

Mae’n rhaid i’r amgueddfa arbed £770,000 dros y chwe mis nesaf a £3.5m dros dair blynedd er mwyn parhau’n ariannol hyfyw.

Bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar 21 swydd. O’r swyddi hynny, bydd 11 swydd barhaol yn cael eu dileu o’r strwythur cyfredol, gan ddibynnu ar ganlyniad ymgynghoriad.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r Cymorth Grant a gaiff Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru wedi lleihau dros 25% mewn termau real – sydd wedi digwydd ochr yn ochr â thros 30% o leihad yn y grant cyfalaf cynnal a chadw.

Mae cyfnod ymgynghori 45 diwrnod â’r staff a’r undebau llafur wedi dechrau.

“Mae’n anorfod y bydd y newidiadau arfaethedig hyn, sy’n digwydd oherwydd yr angen i sicrhau arbedion a mantoli’r gyllideb, yn effeithio ar rai o feysydd gwaith a gwasanaethau’r Amgueddfa,” meddai llefarydd.

“Serch hynny, mae’r Amgueddfa yn ymroi i geisio sicrhau cyn lleied o effaith â phosibl ar ein hymwelwyr trwy gadw amgueddfeydd ar agor a pharhau i gynnig profiad o safon uchel i’r rheini sy’n croesi rhiniog amgueddfeydd cenedlaethol Cymru.”