Gwaith yr artist Wilf Roberts, Tan y Castell (Llun: Oriel Tegfryn)
Mae’r artist o Fôn, gâi ei ystyried yn un o’r artistiaid tirluniau Cymreig mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, wedi marw yn 75 oed.

Bu farw Wilf Roberts yn ei gartref ar ôl dioddef salwch.

Ynys Môn oedd hanfod mwyaf ei waith ag yntau wedi’i fagu ym Mynydd Bodafon, cyn symud i Lundain yn 1962 lle bu’n dysgu celf ac yn astudio’n rhan amser yng Ngholeg Celf Croydon.

Yn 1974, dychwelodd i Fôn gan weithio i’r cyngor a’r Adran Addysg.

Trwy’r cyfan, daliodd ati i baentio ac wedi ei ymddeoliad ugain mlynedd yn ôl, ymroddodd yn llwyr i’w waith celf.

Arddangos ar draws y byd

Mae ei waith i’w weld mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yn yr Hâg, Paris, Efrog Newydd, Awstralia a’r Deyrnas Unedig.

Yn ddiweddar, bu galw mawr am ei waith yn dilyn amryw o arddangosfeydd yn Oriel Tegfryn, Porthaethwy ac yn ei oriel yn Llundain.

Câi ei adnabod am ei ddawn i ddarlunio’i amgylchfyd, boed hynny’n llonyddwch a symlrwydd yr hen fythynnod neu erwinder y clogwyni a’r moroedd o gylch yr ynys.